Cyhoeddedig: 18th MEHEFIN 2025

Yr ail dro: Y manteision o ail-ymgysylltu ag hen ysgol

Gall newid yn staff ysgol arwain at golled mewn ymgysylltiad dros amser, ond gall hefyd cynnig cyfle i greu cysylltiad newydd. Mae'r blog yma'n trafod sut elwodd ysgol gwledig o Geredigion ar ôl dychwelyd i fod yn rhan o'r rhaglen Teithiau Iach, a ariannir gan Lywodraeth Cymru.

Lots of scooters stored in a shelter in the grounds of a primary school.

Mae ail-ymuno â'r rhaglen Teithiau Iach wedi sbarduno newid mewn sut mae disgyblion yn teithio i'r ysgol. Llun gan: Sustrans.

Mae Ysgol Penrhyn-coch, wedi'i leoli yng Ngheredigion, wedi ail-ymuno â'r rhaglen Teithiau Iach a ariannir gan Lywodraeth Cymru, ac yn awr yn elwa ar y newid.

Roedd yr ysgol wedi bod yn rhan o'r rhaglen yn y gorffennol, efo gwahanol lefelau o lwyddiant, ond nawr mae yna frwdfrydedd newydd ar gyfer y rhaglen a chyffro ar gyfer teithio llesol yn yr ardal.

 

Dechrau o'r dechrau efo awch newydd

Mae Ysgol Penrhyn-coch wedi'i leoli ym mhentref gweddol fawr efo terfynau cyflymder o 20mya a dewis o lwybrau a chroesfannau diogel.

Mae rhai plant yn dod i'r ysgol o'r ardal wledig ehangach, ond mae llawr yn byw yn y pentref ei hun.

Diolch i hyn, mae 'na wastad wedi bodoli'r gynneddf i newid ymddygiad, dim ond angen rhywun i fod yr achos i newid oedd angen - daw'r Pencampwr Teithio Llesol newydd.

Mae llawer o lwyddiannau'r rhaglen Teithiau Iach yn dibynnu ar egni Pencampwr Teithio Llesol yr ysgol - hynny yw, aelod o staff sy'n gweithio fel y cysylltiad rhwng yr ysgol a Sustrans.

Os oes gan ysgol pencampwr staff sy'n awyddus, rhagweithiol a brwd, gallwch ddechrau gweld newidiadau gwirioneddol.

 

Egni newydd yn arwain at chwant adnewyddadwy ar gyfer newid

Ail-ymgysylltodd yr ysgol yn ystod gwanwyn 2024 ac erbyn diwedd tymor yr haf, darparodd y Swyddog Teithiau Iach sesiynau sgiliau sgwtera a gwersi ffyrdd diogel i'r holl ysgol.

Yn ystod y flwyddyn academaidd yma, mae'r ysgol wedi cynnal diwrnod Dr Bike gyda mecanydd beic lleol, mae sesiynau sgiliau beiciau wedi cael eu cynnal ar gyfer yr ysgol uwch, ac mae clwb sgwtera ar Ddyddiau Gwener wedi'i ddechrau gan gymysgedd o ddisgyblion hyn ac aelodau staff.

Pob wythnos, mae'r lloches beiciau yn llawn sgwteri, y rhan fwyaf ohonynt yna ar ôl y daith i'r ysgol.

40% - 60%

Canran o deithiau llesol dyddiol wedi'u cofnodi gan ddisgyblion Ysgol Penrhyn-coch ar Dali Teithio

Brwdfrydedd newydd ar gyfer teithio'n llesol sy'n creu canlyniadau

"Fel Ysgol Eco, rydym yn annog ein disgyblion i gerdded, beicio neu sgwtera i'r ysgol os yw'n gyfleus iddyn nhw wneud," medd yr ysgol ar ei gwefan.

"Mae lle diogel ar gael iddyn nhw gadw eu beiciau a sgwteri ar dir yr ysgol."

Gall isadeiledd ac agwedd i newid pethau arwain at helpu creu newid ymddygiad cynaliadwy a hirbarhaol, fel gwelsom o ganlyniadau Stroliwch a Roliwch yr ysgol.

Yn ystod Stroliwch a Roliwch 2025, llwyddodd yr ysgol i wneud bron i 60% o deithio llesol yn ystod pythefnos yr her.

Mae'r momentwm yma wedi parhau, efo'r ysgol yn cofnodi 40% i 60% o deithiau i'r ysgol wedi'u gwneud yn llesol ar Dali Teithio, modd o gofnodi teithiau i'r ysgol, yn ddyddiol.

Mae pencampwr staff Ysgol Penrhyn-coch hefyd yn arwain 'parciwch a theithiwch' pan ei bod hi'n gallu, gan feicio'r milltiroedd olaf i'r ysgol efo'i phlant ei hun, yn arwain gan esiampl serch y pellter.

Efo'r holl egni adnewyddadwy a'r chwant am deithiau iachach i'r ysgol, mae Ysgol Penrhyn-coch ar y trywydd iawn i ennill ei Wobr Ysgol Teithio Llesol Arian ym mis Gorffennaf.

Rhannwch y dudalen hon

Darllenwch y newyddion diweddaraf o Gymru

OSZAR »